4 Dewin and Doti stories for 2-5 Pedair stori Dewin a Doti i blant 2–5 oed
The app includes a voice-over of all four stories read by Nia Ceidiog, background noises and moving images to create an interactive element for young children. This App will be of practical use to Welsh-medium early years settings and primary schools, parents and carers as they introduce Welsh to young children in the early years.
Dyma Ap ar gyfer plant rhwng 2-5 oed sy’n cynnwys 4 stori Dewin a Doti - gyda sain. , Mae’r llyfrau’n adlewyrchu elfennau o fywydau plant bach yng Nghymru yn ei holl amrywiaeth ac yn cyfuno hynny â’r hud a lledrith sydd gan y ddau gymeriad hoffus Dewin a Doti. Teitlau’r llyfrau yw Dewin a Doti yn yr Archfarchnad, Dewin a Doti’n Helpu yn y Gêm Fawr, Dewin a
Doti’n Helpu yn y Pwll Nofio a Dewin a Doti’n Mynd i’r Parc.
Mae Ap yn cynnwys trosleisiad o’r pedwar llyfr gan Nia Ceidiog, synau cefndirol a delweddau symudol gan greu elfen ryngweithiol ar gyfer plant bach. Mae Nia yn adnabyddus ym maes y blynyddoedd cynnar gyda’i gwaith sgriptio a chynhyrchu rhaglenni plant arloesol gan gynnwys Sam Tân, Dwylo’r Enfys ac Y Diwrnod Mawr.